P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ysgol Caer Drewyn ar ôl casglu 157 llofnod – 152 ar bapur a 5 ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod arian ar gael i adfer y gwasanaeth deintyddol symudol yn ardal Bala-Wrecsam ac iddo barhau fel gwasanaeth pwysig i iechyd plant yr ardal yn y dyfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym am ddechrau deiseb gan obeithio y cawn fan ddeintyddol newydd i ddod i'n hysgol i'n helpu ni i edrych ar ôl ein dannedd, fel o'r blaen. Rydym eisoes wedi colli ein bws ysgol ac rydym yn teimlo ein bod yn colli llawer o'r gymuned ac y bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein dyfodol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Clwyd
· Gogledd Cymru